Clwb Sgwrsio Saesneg | Addysg Oedolion Cymru
Ar-lein
Saesneg

Clwb Sgwrsio Saesneg

Cod y Cwrs: S26C0009A
B

Clwb Sgwrsio Saesneg


Hyd: 7 wythnos
Dyddiad Dechrau: 09/09/2026
Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 7 wythnos gyda gwersi am 2 awr yr wythnos o 5:00 PM hyd 7:00 PM ar Ddydd Mercher
Cost: Am ddim (ar gyfer cymwys Dysgwyr sy’n byw yng Nghymru) / £112 (Dysgwyr o du allan i Gymru)
Lleoliad: Cwrs ar-lein dan arweiniad tiwtor yw hwn

7 wythnos

Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 7 wythnos gyda gwersi am 2 awr yr wythnos o 5:00 PM hyd 7:00 PM ar Ddydd Mercher

Anachrededig


Trosolwg

Bydd y cwrs yn gymorth i wella eich sgiliau cyfathrebu yn Saesneg. Trwy weithgareddau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu byddwch yn gwella eich gramadeg a'ch geirfa ar gyfer gwaith, addysg bellach a bywyd cartref. Byddwn yn asesu eich lefel, fel eich bod mewn grŵp gydag unigolion eraill ar safon gyffelyb. Gallwch gofrestru ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn.

Cynnwys

Byddwch yn gwella'ch sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu trwy ystod o bynciau, fel:
• Iechyd a lles
• Gwyliau a Hamdden
• Teulu a ffrindiau

Cymhwyster

Mae hwn yn gwrs heb ei achredu, ond bydd dysgwyr yn derbyn tystysgrif presenoldeb fel tystiolaeth o’u cynnydd ar y cwrs.

Gofynion Mynediad

Dim gofynion mynediad penodol. Fe asesir dysgwyr ar ddechrau'r cwrs a byddant yn derbyn cyngor am y lefel fwyaf priodol iddynt. Bydd y tiwtor yn rhoi cefnogaeth yn ystod y cwrs yn unol â'ch anghenion unigol.

Cyfleoedd i Symud Ymlaen

Gall dysgwyr symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch sy'n arwain at addysg bellach, addysg uwch neu gyflogaeth.

Beth Sydd Ei Angen Arnaf?

Gan fod hwn yn gwrs ar-lein, bydd angen y canlynol arnoch:
• cysylltiad rhyngrwyd
• gliniadur neu gyfrifiadur gyda chamera a meicroffon; gallai defnyddio clustffonau hefyd fod yn fanteisiol.

Webfeed Date: 12/09/2026 02:04:24