Sgiliau Hanfodol Ar-Lein | Addysg Oedolion Cymru
Ar-lein
Saesneg

Sgiliau Hanfodol Ar-Lein

Cod y Cwrs: Y26C0001A
M

Lefel 2 Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol a NEU Lefel 2 Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol


Hyd: 48 wythnos
Dyddiad Dechrau: 03/08/2026
Cost: Am ddim
Lleoliad: Cwrs ar-lein dan arweiniad tiwtor yw hwn

48 wythnos

Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 12 mis gyda gwersi am 1 awr yr wythnos o 10:00 AM hyd 11:00 AM ar Ddydd Llun, Dydd Mercher, Dydd Mawrth, Dydd Iau, Dydd Gwener, Dydd Sadwrn a Dydd Sul, er mai dim ond am gyfanswm o 1 awr yn ystod cyfnod y cwrs bydd disgwyl i ddysgwyr fynychu fel arfer.

Anachrededig


Trosolwg

Mae'r cwrs yn dechrau gydag Asesiad Cychwynnol drwy Becyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru, a gellir cynnal yr asesiad trwy gydol y flwyddyn academaidd. Y cwrs yma yw'r cam cyntaf i gymhwyster Lefel 2 a dderbynnir gan fwyafrif helaeth colegau a phrifysgolion yng Nghymru fel yn gyfwerth gyda gradd TGAU A-C mewn Mathemateg NEU Saesneg Iaith. Byddwch yn cael cyfnod o hunan astudio i fynd a chi i lefel 2 ac yna byddwch yn trosglwyddo i gam 2, sef dosbarth ar-lein dan arweiniad tiwtor a fydd yn eich paratoi ar gyfer asesiadau ac arholiadau sydd dan oruchwyliaeth ar ddiwedd y cwrs.

Cynnwys

Gall dyddiad cychwyn y cwrs amrywio trwy gydol y Flwyddyn Academaidd, unrhyw bryd rhwng Awst 1af - 31 Gorffennaf. Mae'n gwrs hunan astudio ar-lein sy'n cyd-fynd gyda'ch bywyd prysur. Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar yr ystod eang o ddarllen, ysgrifennu a chyfathrebu ar lafar NEU ar yr ystod eang o sgiliau rhifedd sy'n ofynnol i gyflawni'r cymhwyster.
I drafod y cwrs yn fanylach cysylltwch gyda Sian Williams ar e-bost - Sian.Williams@adultlearning.wales neu ffôn - 029 22746668

Deilliant y Cwrs

Nid yw cwblhau'r cwrs hwn yn arwain at gymhwyster cydnabyddedig. Fodd bynnag, byddwch yn derbyn tystysgrif gwblhau gennym a'r cyfle i symud ymlaen i Gymhwyster a Gydnabyddir yn Genedlaethol.

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.

Cyfleoedd i Symud Ymlaen

Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif
Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cyfathrebu

Beth Sydd Ei Angen Arnaf?

Gan fod hwn yn gwrs ar-lein, bydd angen y canlynol -
• gliniadur neu gyfrifiadur gyda chamera
• meicroffon a chlustffonau
• cysylltiad rhyngrwyd.

Webfeed Date: 18/11/2026 01:24:22