Ystafell Ddosbarth
Saesneg
Diploma Lefel 4 CPCAB mewn Cwnsela Therapiwtig
Cod y Cwrs: X25C0026A
A
Diploma CPCAB Lefel 4 Cwnsela Therapiwtig - TC-L4
72 wythnos
Mae'r cwrs yma yn rhedeg am 23 mis gyda gwersi am 4¼ awr yr wythnos o 12:30 PM hyd 4:45 PM ar Ddydd Mercher
Wedi'i achredu'n llawn
Mae hwn yn gwrs achrededig sydd wedi'i ardystio gan CPCAB
Trosolwg
Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i chi ddatblygu arferion diogel a moesegol fel cwnselydd dan hyfforddiant. Byddwch yn ennill dealltwriaeth gadarn o sut i ddatblygu a chynnal perthnasoedd cwnsela therapiwtig, yn ogystal â datblygu hunanymwybyddiaeth sy’n cynnwys herio eich rhagfarnau personol, eich pryderon neu faterion sy’n gysylltiedig â’r broses gwnsela. Byddwch yn ymarfer hunan fyfyrio ac yn gweithio’n unol â model o ddamcaniaethau a sgiliau cwnsela.Nid yw’r cwrs yn cynnwys unedau dewisol – mae’r saith uned yn ORFODOL.
https://www.cpcab.co.uk/qualifications/tc-l4
Cynnwys
Mae'r cymhwyster rhan-amser dwy flynedd yma yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r cymwyseddau i ddysgwyr weithio fel cwnselydd therapiwtig yng nghyd-destun asiantaethol mewn lleoliadau gofal iechyd ac anfeddygol.Deilliant y Cwrs
CPCAB Diploma Lefel 4 mewn Cwnsela Therapiwtig 500/8088/xGofynion Mynediad
Tystysgrif Lefel 3 mewn Sgiliau Cwnsela neu gyfwerth.Bydd cyfweliad ffurfiol yn rhan o’r broses ymgeisio ar gyfer y cwrs hwn. Rhaid llwyddo yn y cyfweliad er mwyn sicrhau lle ar y cwrs.
Bydd angen cyflwyno Geirda Annibynnol, a bydd angen i bob dysgwr gael gwiriad glân gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) cyn mynychu lleoliad gwaith.
Ystyriaethau gofynion mynediad eraill
Oed - Rhaid bod yn 19 mlwydd oed er mwyn cofrestru ar gyfer y cwrs hwn. Nid oes terfyn oedran uchaf.
Ymrwymiad - Rhaid ymrwymo amser ac adnoddau i ymgymryd ag elfennau ymarferol y cwrs ac anelu at fynychu o leiaf 80% o’r sesiynau a addysgir.