Llythrennedd Ariannol | Addysg Oedolion Cymru

Cyllid yr Ŵyl: Cyllidebu ar gyfer y Nadolig

Byddwn yn creu rhestrau cyllideb Nadolig ac yn dysgu gwahanol ffyrdd o gael y gorau ohonynt mewn ffordd hwyliog a Nadoligaidd. Neu efallai eich bod eisiau gallu cynilo ar gyfer rhywbeth rydych wedi bod eisiau prynu ers cyfnod – mi allwn eich helpu!

Cyllidebu a Rheoli Arian

Cyflwyniad i ddeall cyllidebu a sut i gyfrifo a chynhyrchu cyllideb fisol ar gyfer gwariant hanfodol a gwariant nad yw’n hanfodol. Bydd y cwrs yn eich helpu i addasu i gynllunio eich incwm dros gyfnod hir o amser.