Kathryn Robson - Prif Weithredwr
Kathryn Robson yw Prif Weithredwr Addysg Oedolion Cymru, ac mae hi’n arwain gwaith cenedlaethol y sefydliad i ehangu mynediad at gyfleoedd dysgu gydol oes a chryfhau dysgu oedolion yn y gymuned ledled Cymru. Ei ffocws yw sicrhau bod cyfleoedd o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar y dysgwr, yn cyrraedd pobl yn eu cymunedau, gan gynorthwyo i ddatblygu sgiliau, hyder a chyfranogiad gweithredol yn y gymdeithas.
Cafodd Kathryn ei geni a'i magu yng Ngogledd Sir Benfro, ac mae hi’n credu’n gryf mewn hyrwyddo darpariaeth ddwyieithog a thwf dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hi’n gweithio ar draws y sector addysg ôl-16 ers 2001, gan ddatblygu partneriaethau sy'n cysylltu addysg bellach, dysgu cymunedol a'r trydydd sector. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ehangu cyfranogiad, cynorthwyo cymunedau difreintiedig a chreu cyfleoedd sy'n galluogi pobl i wneud cynnydd, ymgysylltu a chyfrannu.
Mae gan Kathryn gefndir proffesiynol ym maes Rheoli Adnoddau Dynol ac mae'n Aelod Siartredig o Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu. Mae hi'n cyfrannu profiad helaeth ym meysydd datblygu sefydliadol, cysylltiadau â chyflogeion a phartneriaethau cymdeithasol ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys ymwneud â threfniadau cenedlaethol yn ymwneud â’r gweithlu ym maes addysg bellach.
Fel Prif Weithredwr, mae Kathryn yn arwain Addysg Oedolion Cymru fel darparwr uniongyrchol a sefydliad cenedlaethol sydd â rôl nodedig o ran llunio, cynnal a chysylltu addysg oedolion ledled Cymru.
Mae Kathryn yn cyfrannu'n helaeth ar draws y dirwedd addysg a'r trydydd sector. Mae hi'n aelod o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) ac yn cadeirio cyfarfodydd Rhwydwaith Addysg a Hyfforddiant Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector. Mae hi'n aelod o’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol fel cynrychiolydd cyflogwyr ac mae'n aelod o Grŵp Strategaeth Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru. Mae hi hefyd yn aelod o Fforwm Penaethiaid Colegau Cymru a'i Bwyllgor Archwilio.
Mae gan Kathryn benodiad cyhoeddus yng Nghyngor y Gweithlu Addysg. Mae hi hefyd yn aelod o'r Panel Adolygu Penderfyniadau ar gyfer Medr, ac mae’n cyfrannu at oruchwylio a gwneud penderfyniadau ar draws y system addysg a sgiliau ôl-16 yng Nghymru.
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu'n aelod! Beth bynnag yr hoffech ei wneud, byddem wrth ein bodd pe baech yn rhan o'r hyn a wnawn.
Cysylltwch â ni