Aelod Pwyllgor – Sharon Clancy | Addysg Oedolion Cymru

Menyw gyda gwallt brown hir, yn gwenu ar y camera

 

Sharon Clancy - Pwyllgor Profiad y Dysgwr

Mae Dr Sharon Clancy yn Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Nottingham, gan arbenigo mewn addysg ôl-16 ac oedolion. Mae ei hysgrifennu'n canolbwyntio ar faterion dosbarth, diwylliant a chyfiawnder cymdeithasol drwy lens seicogymdeithasol a hanesyddol. Sharon oedd Pennaeth Ymgysylltu Cymunedol ym Mhrifysgol Nottingham rhwng 2007 a 2013.

Yn arweinydd yn y sector gwirfoddol cyn mynd i'r byd academaidd, roedd Sharon yn Brif Swyddog Gweithredol Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Mansfield o 2000 i 2007. Sharon yw Cadeirydd Sefydliad Raymond Williams, comisiynydd i'r Comisiwn Canmlwyddiant, a chyd-olygydd y cyfnodolyn Studies in the Education of Adults. Mae cwrdd gyda Dr Iain Jones, o'r Cylch Ymchwil ar Feithrin Democratiaeth, Dadl a Deialog a ddaeth i'r amlwg o'r Comisiwn Canmlwyddiant ar Addysg Oedolion.

Yn 2025 dyfarnwyd Cymrodoriaeth Ymchwil Leverhulme iddi am flwyddyn i ymchwilio i 'Mannau Coll a Straeon heb eu Hadrodd: Byd Diflanedig Addysg Oedolion Arbrofol', bu iddi ddechrau'r ymchwil ym mis Hydref 2025. Hefyd yn 2025 enillodd Gwobr yr Arglwydd Dearing sy'n cydnabod cyflawniadau rhagorol staff Prifysgol Nottingham wrth wella profiad dysgu myfyrwyr.

 

 

Am Ragor o Wybodaeth

Os hoffech chi wybod mwy am ein Cyngor, siaradwch â ni.

Cyfeiriad

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
7, Lard y Cowper, Ffordd Curran
Caerdydd CF10 5NB

Ffôn

03300 580845

Ebost

Nicola Dagg (Ysgrifennydd y Cwmni)

Ymunwch â ni

Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu'n aelod! Beth bynnag yr hoffech ei wneud, byddem wrth ein bodd pe baech yn rhan o'r hyn a wnawn.

Cysylltwch â ni