Datganiad Gwrth-hiliaeth
Ynglŷn ag Addysg Oedolion Cymru
Addysg Oedolion Cymru (AOC) yw’r sefydliad cenedlaethol Dysgu Oedolion yn y Gymuned, ac mae’n unigryw yng Nghymru oherwydd mae’n canolbwyntio’n llwyr ar yr elfen hon o’r sector addysg. Rydym yn cynnig llawer o gyfleoedd dysgu yn uniongyrchol, ac rydym hefyd yn cydweithio â phartneriaid ledled Cymru i gynnig cyrsiau a rhaglenni dysgu. Mae cydweithio yn allweddol i sicrhau bod pawb, o bob cefndir ac ym mhob cymuned, yn gallu cael cyfleoedd i wella eu bywydau trwy ddysgu ac i gyflawni eu potensial.
Ar hyn o bryd, mae AOC yn gweithio fel rhan o Bartneriaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned ledled Cymru, ac mae gennym ystod amrywiol o Aelod-Bartneriaid Cysylltiedig â Phartneriaid Cyflawni, gan gynnwys darparwyr lleol a sefydliadau cenedlaethol. Mae’r rhain yn cynnwys nifer o sefydliadau sy’n cynorthwyo cymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Rydym yn cynorthwyo llawer o ddysgwyr o gymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig trwy ein darpariaeth Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yn ogystal â darpariaethau eraill.
Mae ein cynnig yn eang ei gwmpas, ac mae’n amrywio o sgiliau sylfaenol ym meysydd Saesneg, Cymraeg, rhifedd, digidol, iechyd personol a chyllid i gymwysterau sy’n cynnig llwybrau at Addysg Uwch. Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau mewn pynciau sy’n gysylltiedig â hobïau neu ddiddordebau arbennig oherwydd gall unrhyw fath o ddysgu sicrhau effaith gadarnhaol. Yn achos llawer o’n dysgwyr, efallai mai ein cyrsiau ni fydd y tro cyntaf iddynt gyfranogi mewn dysgu ffurfiol ers gadael addysg draddodiadol, ac mae’n gam sy’n eu grymuso yn ystod eu taith tuag at gyflawni eu nodau. Ein nod yw helpu a chynorthwyo unigolion i ysgogi a meithrin eu hyder a’u sgiliau trwy eu profiad dysgu gyda ni. Beth bynnag y byddwn yn ei gynnig, ein nod bob amser fydd darparu addysgu a dysgu rhagorol mewn ffordd sy’n gynhwysol ac yn canolbwyntio ar anghenion ein dysgwyr.
Rydym yn adnabyddus am droedio’r ail filltir i alluogi a chynnal dysgu i bawb, a byddwn yn aml yn cynnig darpariaeth i unigolion sy’n wynebu amgylchiadau heriol. Bydd llawer o’n dysgwyr yn dweud wrthym fod eu profiad gydag AOC wedi newid eu bywyd, a bydd yr adborth hwnnw’n ein hysbrydoli i weithio’n galetach i gyflawni ar eu cyfer. Ceir hanesion ysbrydoledig am lawer o ddysgwyr ar ein gwefan. Yn yr hanesion hynny, ceir enghreifftiau sy’n amlygu sut mae dysgu wedi helpu unigolion a grwpiau i ymdopi ag unigrwydd, problemau iechyd meddwl, diffyg hyder a diffyg hunan-barch, ac i feithrin sgiliau newydd neu ddysgu iaith newydd, cwrdd â phobl, canfod gwaith a gwella eu rhagolygon gyrfa ynghyd â’u hiechyd a’u lles.
Gwrth-hiliaeth yn AOC
Mae AOC yn cefnogi gweledigaeth ‘Cymru sy’n wrth-hiliol’ Llywodraeth Cymru yn llwyr. Rydym wedi ymrwymo i ddod yn sefydliad gwrth-hiliol, gan greu diwylliant sy’n gwrthod goddef unrhyw hiliaeth a newid ein systemau, ein polisïau a’n gweithdrefnau i ddileu hiliaeth ym mhob agwedd ar ein gwaith. Bydd ein Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol yn sicrhau ein bod yn cyfrannu at sicrhau newid mesuradwy i fywydau pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig drwy fynd i’r afael â hiliaeth.
Ynghyd â gwerthoedd penodol ein sefydliad, mae’r gwerthoedd sy’n sail i’n cynllun gweithredu gwrth-hiliol yn cyd-fynd â’r rhai a nodir yng Nghynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru. Dyma’r gwerthoedd hynny:
- Didwylledd a thryloywder
- Yn seiliedig ar hawliau
- Sicrhau bod profiadau bywyd wrth wraidd popeth a wnawn
Yn AOC, rydym yn ystyried bod ein hunaniaeth yn cyd-fynd yn agos â chymhellion cynhwysol traddodiadol y mudiad addysg oedolion. Rydym yn ymdrechu i wreiddio cynhwysiant ym mhob gweithgaredd ac i rymuso staff i weithredu i sicrhau cydraddoldeb trwy ganolbwyntio ar agweddau cadarnhaol, ac ategir hynny gan bolisïau a chynlluniau.
Ein Hymrwymiadau
- Rydym yn cydnabod bod hiliaeth yn bodoli yn y gymdeithas, a bod hynny’n hynod o niweidiol. Rydym yn cydnabod effeithiau hiliaeth a byddwn yn cynorthwyo ein staff, dysgwyr a’n haelodau o gymunedau Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a allai brofi’r effeithiau hyn.
- Byddwn yn annog pobl i siarad am hiliaeth, gan gynnig amser a chyfleoedd i bobl siarad am eu profiadau, gan wybod yn hyderus y byddwn yn gwrando arnynt ac yn cynnig cymorth iddynt.
- Fel darparwr dysgu a sefydliad aelodaeth, mae gennym gyfle a chyfrifoldeb i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i wrth-hiliaeth yn AOC ac yn y gymuned ehangach. Byddwn yn ymgorffori gwrth-hiliaeth yn ein cwricwlwm, trwy ein rhwydweithiau, digwyddiadau a chyfathrebiadau, a byddwn yn dylanwadu ac yn siarad o blaid gwrth-hiliaeth ar bob cyfle, gan herio hiliaeth lle byddwn yn ei gweld.
- Ar hyn o bryd, nid yw ein tîm rheoli yn adlewyrchu’r amrywiaeth sy’n bodoli yn ein sefydliad nac yn y gymdeithas ehangach. Wrth i ni weithio i fynd i’r afael â hyn, byddwn yn datblygu sgiliau ein tîm rheoli ynghyd â’n staff ehangach i gynnig y cymorth sydd ei angen arnynt i fod yn gefnogwyr effeithiol. Mae ein tîm wedi ymrwymo i gynorthwyo ein pobl o gymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig er mwyn sicrhau na chaiff baich mynd i’r afael â hiliaeth ei ysgwyddo gan y sawl sydd eisoes yn profi ei anghyfiawnderau.
- Byddwn yn trafod ein cynnydd o ran ein gwaith gwrth-hiliaeth yn ddidwyll ac yn onest, a thrwy ein Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth, byddwn yn gosod nodau eglur y gellir eu defnyddio i fesur ein cynnydd.
- Dymunwn wneud mwy na chydymffurfio; dymunwn geisio cyfleoedd i hyrwyddo gwrth-hiliaeth ym mhob agwedd ar ein gwaith. Rydym yn credu’n gryf mai dyma’r peth iawn i’w wneud, er budd ein dysgwyr, ein staff, ein gwirfoddolwyr, ein haelodau a’r gymuned ehangach.
Rhannu Profiadau Bywyd
Er mwyn cyflawni ein hymrwymiadau, mynd i’r afael â hiliaeth a chyflawni ein nod o ddod yn sefydliad gwrth-hiliol, mae’n hanfodol i ni allu clywed safbwyntiau’r sawl sydd â phrofiad personol. Rydym yn annog ein dysgwyr, ein staff, ein gwirfoddolwyr a’n haelodau i siarad am hiliaeth, a byddwn yn gweithio’n galed i greu cyfleoedd diogel gobeithio a wnaiff eich galluogi i deimlo’n ddigon cyfforddus i siarad am eich profiadau â’n cefnogaeth a’n dirnadaeth. Byddwch chi’n gallu siarad yn ddidwyll, heb gael eich barnu. Caiff eich cyfrinachedd ei barchu. Byddwn yn sicrhau bod cymorth proffesiynol ar gael a bydd unrhyw adborth yn parchu eich dymuniadau i fod yn ddienw pe bai’n well gennych
Os ydych yn fodlon rhannu eich profiad fel y disgrifir uchod, cysylltwch gyda Cath Hicks, Pennaeth Gwasanaethau Dysgwyr ac Adnoddau
cath.hicks@addysgoedolion.cymru
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu'n aelod! Beth bynnag yr hoffech ei wneud, byddem wrth ein bodd pe baech yn rhan o'r hyn a wnawn.
Cysylltwch â ni