A oes gennych ddiddordeb i roi cymorth i dyfu a datblygu'r
gweithlu Gwaith Ieuenctid yng Nghymru?
Y Cyd-destun ar gyfer Datblygu’r Gweithlu Gwaith
Ieuenctid
Mae adroddiad Interim y Bwrdd Gwaith Ieuenctid ‘Amser i
Gyflawni’ (argymhelliad 13) yn nodi: “Mae angen i Lywodraeth
Cymru adeiladu ar ei hymrwymiad i gefnogi a datblygu’r
proffesiwn Gwaith Ieuenctid.”
Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro: adroddiad terfynol |
LLYW.CYMRU
Mae Llywodraeth Cymru wedi addo cefnogi twf a
datblygiad cymwysterau Gweithwyr Cymorth Ieuenctid o fewn y
proffesiwn trwy hyfforddi a chymhwyso Gweithwyr Ieuenctid â
chymwysterau proffesiynol fel Aseswyr a Swyddogion Sicrhau
Ansawdd Mewnol (IQA).
Datblygiad Proffesiynol Gweithiwr Ieuenctid Cymwys i ddod
yn Swyddog Sicrhau Ansawdd Mewnol Cymwys, Lefel 4
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu 20 o leoedd ar gyfer
Gweithwyr Ieuenctid sydd gyda chymwysterau proffesiynol i
hyfforddi fel Aseswyr a Swyddogion Sicrhau Ansawdd Mewnol
(IQAs) yng Nghymru drwy ymgymryd â: Dyfarniad mewn Sicrhau
Ansawdd Mewnol mewn Prosesau ac Arferion Asesu, Lefel 4 (gan
gynnwys Tystysgrif mewn Asesu Cyrhaeddiad sy'n gysylltiedig â
Galwedigaeth, Lefel 3). Mae’n rhaglen 2 flynedd ran-amser, a
fydd yn eich cymhwyso i ddeall a chynnal asesiadau a sicrwydd
ansawdd mewnol ar gyfer cymwysterau Gweithiwr Cymorth
Ieuenctid ynghyd a hyfforddiant achrededig cysylltiedig.
Beth yw Sicrwydd Ansawdd Mewnol?
Sicrwydd Ansawdd Mewnol mewn hyfforddiant ac addysg yw'r
broses sy'n sicrhau bod yr hyfforddi, asesu a dyfarnu credydau
ar gyfer dysgu yn deg ac yn bodloni gofynion a safonau’r
cymhwyster.
Beth yw Swyddog Sicrhau Ansawdd Mewnol cymwys (IQA)?
Mae’r Swyddog Sicrhau Ansawdd Mewnol (IQA) cymwysedig yn
gymwys i gynllunio, cyflawni, monitro sicrwydd ansawdd
hyfforddiant a chymwysterau achrededig. Byddant yn sicrhau bod
y tiwtoriaid, y deunyddiau addysgu, y sesiynau a addysgir, yr
asesiadau a'r dyfarniadau credyd yn bodloni'r safonau cywir ar
gyfer cyflawni’r cymhwyster.
Beth yw Swyddog Sicrhau Ansawdd Mewnol (IQA) cymwys mewn
Gwaith Ieuenctid?
Mae Swyddog Sicrhau Ansawdd Mewnol cymwys mewn Gwaith
Ieuenctid yn gallu sicrhau ansawdd cymwysterau Gweithiwr
Cymorth Ieuenctid Gweithwyr Ieuenctid yng Nghymru yn ogystal â
hyfforddiant a chymwysterau achrededig cysylltiedig eraill.
Pam hyfforddi i ddod yn Swyddog Sicrhau Ansawdd Mewnol
(IQA) mewn Gwaith Ieuenctid?
Byddwch yn gallu sicrhau ansawdd y
ddarpariaeth cymwysterau ay gyfer Gweithiwr Cymorth Ieuenctid
yn eich sefydliad Gwaith Ieuenctid. Bydd hyn yn golygu y
byddwch yn gallu:
• • Cynnal Sicrwydd Ansawdd Mewnol o
dystiolaeth am y dysgwyr, sydd wedi'i hasesu gan diwtor aseswr
cymwys, a hawlio dyfarniad credyd gyda'r Corff Dyfarnu.
• • Cynllunio posibl i'ch mudiad ddod yn ganolfan
gofrestredig gydag Agored Cymru a chyflwyno'r cymwysterau
Gweithiwr Cymorth Ieuenctid i'ch staff a'ch gwirfoddolwyr.
A all unrhyw un arall Sicrhau Ansawdd Mewnol (IQA) mewn
Cymwysterau Gweithiwr Cymorth Ieuenctid yng Nghymru?
Na. Dim ond Swyddog Sicrhau Ansawdd Mewnol Cymwysedig mewn
Gwaith Ieuenctid, sydd gyda phrofiad Gwaith Ieuenctid sy'n
gallu sicrhau ansawdd cymwysterau Gweithwyr Cymorth Ieuenctid
yng Nghymru.
Mae’r
Strategaeth Asesu Gwaith Ieuenctid ar gyfer Cymwysterau yng
Nghymru a Lloegr
yn nodi bod yn rhaid i unrhyw un sy'n cyflawni’r rôl Sicrwydd
Ansawdd Mewnol fod â chymwysterau addas ar Lefel 4, yn ogystal
â bod yn Weithiwr Ieuenctid cymwys a phrofiadol.
ETS Cymru - Strategaeth Asesu Lefel 2 a 3 (yn Saesneg) (PDF, 175 KB)
Sut mae dod yn Swyddog Sicrhau Ansawdd Mewnol (IQA) cymwys
ar gyfer Cymwysterau Gwaith Ieuenctid?
Yn gyntaf, bydd angen i chi fod yn Weithiwr Ieuenctid
Proffesiynol cymwys a phrofiadol gyda Chymhwyster Gwaith
Ieuenctid ar Lefel 5 cyn 2010/ Lefel 6 ar ôl 2010 / PGDip
Lefel 7. Am ragor o wybodaeth ewch i:
www.etswales.org.uk/youth-work-training
Yna bydd angen i chi astudio cyfres o unedau i ddod yn
Swyddog Sicrhau Ansawdd Mewnol cymwys. Rhestrir y rhain isod.
|
Lefel 3 Tystysgrif mewn Asesu Cyrhaeddiad sy'n
gysylltiedig â Galwedigaeth |
|
|---|---|
| 1 |
Deall Egwyddorion ac Arferion Asesu (3 Credyd) |
| 2 |
Asesu Gwybodaeth, Dealltwriaeth a Sgiliau Galwedigaethol (6 Credyd) |
| 3 |
Asesu Cymhwysedd Galwedigaethol yn yr Amgylchedd Gwaith (6 Credyd) |
|
Lefel 4
Dyfarniad mewn Sicrhau Ansawdd Prosesau ac
Arferion Asesu yn Fewnol |
|
| 4 |
Deall Egwyddorion ac Arferion Sicrhau Ansawdd
Asesu yn Fewnol |
| 5 |
Sicrhau Ansawdd Asesu yn Fewnol (6 Credyd) |
www.agored.cymru/Canllaw-Cymhwyster/13
Sut allaf gymhwyso fel Swyddog Sicrhau Ansawdd Mewnol
Cymwys mewn Gwaith Ieuenctid?
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig 20 o leoedd wedi’u hariannu
i hyfforddi unigolion i fod yn Swyddogion Sicrhau Ansawdd
Mewnol Cymwys mewn Gwaith Ieuenctid. Gallwch wneud cais am
le ar y cwrs hwn.
Sut gall y sefydliad Gwaith Ieuenctid rwy’n gweithio
iddynt fy helpu i gymhwyso fel Swyddog Sicrhau Ansawdd
Mewnol Cymwys mewn Gwaith Ieuenctid?
Bydd disgwyl i’ch sefydliad Gwaith Ieuenctid eich cefnogi i
ennill y cymhwyster drwy:
• Eich rhyddhau i fynychu'r
sesiynau a addysgir a'r tiwtorialau.
• Caniatáu amser
rhesymol i chi wneud y gwaith cwrs a'r dulliau asesu, ac i
chi fedru cynnal asesiadau ar y ddau ddysgwr, ynghyd a phob
gweithgaredd Sicrhau Ansawdd Mewnol arall.
Manylion y Cwrs
Dyddiad Cychwyn: Ioanwr 2024
Dyddiad Cwblhau:
Rhaghyr 2024
Cyflwyniad: bydd y
sesiynau a addysgir a'r tiwtorialau yn cael eu cyflwyno
ar-lein gan Agored Cymru.
Asesiad:
gwneir hyn trwy bortffolio ac asesiad wedi'i arsylwi.
Cynhelir arsylwadau wyneb yn wyneb lle bo modd.
Dewis iaith:
Cyflwynir y cwrs gan dîm hyfforddi Agored Cymru. Bydd yn
cael ei gyflwyno gan diwtor dwyieithog Cymraeg / Saesneg a
gallwch ddewis i’ch gwaith gael ei asesu yn Gymraeg neu
Saesneg.
Cynnwys y Cwrs:
•
Dyfarniad mewn Sicrhau Ansawdd Prosesau ac Arferion Asesu
yn Fewnol, Lefel 4 (12 credyd)
Ionar 24 – Rhagfyr 2024
Sesiynau a
addysgir: 4 x 1 diwrnod, 1 x hanner diwrnod, Tiwtorialau
- Dydd Llun 10am – 1pm
1.
15.01.24
2. 22.01.24
3.
29.01.24
4. 05.02.24
Cynhyrchu
portffolio tystiolaeth a gweithio gydag o leiaf 2 aseswr y
mae pob un ohonynt yn asesu lleiafswm o ddau ddysgwr sy'n
gweithio tuag at gyflawni cymhwyster galwedigaethol.
Gofynion mynediad ar gyfer yr hyfforddiant a ariennir
yma:
Rhaid i ddysgwyr fod yn 18 oed neu drosodd i ymgymryd â'r
cymwysterau.
Tiwtor Aseswr Cymwys gyda Thystysgrif mewn
Asesu Cyflawniad Galwedigaethol Lefel 3, neu gyfwerth.
Gofynion pellach ar gyfer yr hyfforddiant a ariennir ar
gyfer Gweithwyr Ieuenctid yng Nghymru:
Cymhwyster proffesiynol (neu'n gweithio tuag ato) a rhai
sy’n gweithio fel Gweithiwr Ieuenctid (Lefel 5 cyn 2010/
Lefel 6 ar ôl 2010/PGDip Lefel 7).
Diddordeb i roi
cymorth i dyfu a datblygu'r gweithlu Gwaith Ieuenctid yng
Nghymru
Beth nesaf?
1. Llenwch Ffurflen Gais ar gyfer y cwrs
erbyn canol dydd 16.11.23.
Cais Cwrs
I gael mwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at
youthwork@adultlearning.wales
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu'n aelod! Beth bynnag yr hoffech ei wneud, byddem wrth ein bodd pe baech yn rhan o'r hyn a wnawn.
Cysylltwch â ni