Cyrsiau Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (SSIE neu ESOL)
Ydych chi'n chwilio am gwrs SSIE (ESOL)?
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf a hoffech chi ddysgu neu wella'ch sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu, yna gallai cwrs SSIE (ESOL) fod yn addas i chi.
Rydym yn darparu dosbarthiadau SSIE (ESOL) achrededig yn eich cymuned leol mewn amgylchedd dysgu cyfeillgar a chefnogol.
Cyrsiau ESOL Reach
Os hoffech chi ymuno ag unrhyw un o'n dosbarthiadau yng
Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe neu Wrecsam, mae angen i chi
gwblhau asesiad cychwynnol mewn Hwb REACH +.
Ariennir
prosiect Integreiddio Ail-gychwyn REACH gan Lywodraeth Cymru ac
mae yno i wasanaethu pawb yng Nghymru sydd eisiau dysgu SSIE.
(Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill).
Mae Hybiau yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe a
Wrecsam
Mae canolfannau REACH + yn darparu un pwynt cyswllt
canolog i unrhyw un sy'n dymuno cyrchu SSIE yn y dinasoedd hyn.
Rydym yn asesu pob person ac yn cyfeirio at y cwrs cywir ac yn
cefnogi mor gyflym â hawdd â phosibl.
Cysylltwch ag aelod o'n tîm, a fydd yn gallu rhoi gwybodaeth i chi ar sut i archebu asesiad yn un o'r Hybiau hyn:
-
Ar gyfer Caerdydd, cysylltwch â:
AOC Swyddfa Caerdydd – esolcardiff@addysgoedolion.cymru
Alison Ghrairi – Alison.Ghrairi@addysgoedolion.cymru
Galiya Idrisova – Galiya.Idrisova@addysgoedolion.cymru -
Ar gyfer Casnewydd, cysylltwch â:
Louise Gilmore – Louise.Gilmore@addysgoedolion.cymru -
Ar gyfer Abertawe, cysylltwch â:
Samantha Al-khanchi - Samantha.Al-khanchi@addysgoedolion.cymru -
Ar gyfer Wrecsam, cysylltwch â:
Sarah O'Connell Jones - sarah.o'connelljones@adultlearning.wales -
Am Ymholiadau Cenedlaethol, cysylltwch gyda:
Saffa Bellis – Saffa.Bellis@addysgoedolion.cymru -
Os ydych yn ddysgwr yn Wrecsam neu yng Ngogledd Cymru sydd gyda diddordeb mewn darpariaeth Saesneg fel Ail Iaith (ESOL) ar-lein, cysylltwch â:
Cecilia Forsythe - cecilia.forsythe@adultlearning.wales -
Os ydych yn bartner fyddai’n hoffi trafod y ddarpariaeth wyneb yn wyneb ledled Gogledd Cymru, cysylltwch â:
Sarah O'Connell Jones - sarah.o'connelljones@adultlearning.wales -
Ar gyfer Powys, cysylltwch â:
Cecilia Forsythe - cecilia.forsythe@adultlearning.wales
Sgiliau iaith
Mae'r cwrs ESOL yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau iaith i'ch galluogi i gael gafael ar wasanaethau lleol, cymryd rhan ym mywyd dyddiol ym Mhrydain a'ch paratoi ar gyfer cyflogaeth neu addysg bellach.
Darganfyddwch fwy... 02922746657 a sgwrsiwch gyda Saffa Bellis, Cydlynydd ESOL Cenedlaethol, i ddarganfod mwy!
Rhesymau dros Ddysgu gyda ni
- Rhoi hwb i’ch hyder
- Darganfod sgil newydd
- Agor drysau at gyfleoedd newydd
- Ailennyn diddordeb
- Gwella eich llesiant
- Gwneud llawer o ffrindiau newydd
- Bod yn rhan o’ch cymuned leol
- Dod yn fwy gweithgar a dirwystr
- Dysgu sgiliau newydd an gwahanol
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu'n aelod! Beth bynnag yr hoffech ei wneud, byddem wrth ein bodd pe baech yn rhan o'r hyn a wnawn.
Cysylltwch â ni