Cynllun Aelodaeth AOC - Telerau ac Amodau
Darllenwch Delerau ac Amodau Cynllun Aelodaeth Addysg Oedolion Cymru (AOC) isod.
Bydd aelodaeth yn ddilys am flwyddyn gan gychwyn ar y dyddiad dyroddi. Bydd yn rhaid adnewyddu a thalu am aelodaeth yn flynyddol gan ddefnyddio’r ddolen unigryw a anfonir atoch chi mewn neges e-bost awtomataidd ynghylch adnewyddu aelodaeth. Byddwch yn cael y neges e-bost ynghylch adnewyddu aelodaeth yn nes at ddyddiad adnewyddu eich aelodaeth. Ar ôl i chi adnewyddu eich aelodaeth gan ddefnyddio’r ffurflen adnewyddu ar-lein, byddwch yn cael cerdyn aelodaeth newydd wedi’i atodi wrth y neges e-bost i gadarnhau eich bod wedi adnewyddu eich aelodaeth. Os byddwch yn penderfynu peidio ag adnewyddu eich aelodaeth, dylech anwybyddu’r negeseuon e-bost ynghylch adnewyddu a daw eich aelodaeth i ben. Ni chymerir unrhyw daliadau gennych chi a bydd eich aelodaeth o AOC yn dod i ben yn awtomatig.
O ran y ffioedd aelodaeth, talu faint y gallwch yw’r drefn. Rydym yn argymell y dylai pobl anghyflogedig dalu £5.00 a dylai pobl sy’n gweithio dalu £10.00, ond chi piau’r dewis. Yr isafswm y gellir ei dalu ar hyn o bryd yw £1. Ni ellir ad-dalu unrhyw ffioedd aelodaeth wedi ‘cyfnod ailfeddwl’ yn para 14 diwrnod sy’n cychwyn pan fydd eich aelodaeth yn cychwyn. Os byddwch yn canslo rywbryd yn ystod eich blwyddyn aelodaeth, ni fydd gennych chi hawl i gael ad-daliad rhannol, a byddwch yn colli buddion y cynllun aelodaeth. Os dymunwch ganslo eich aelodaeth oherwydd unrhyw reswm, ar sail y telerau a nodir uchod, cysylltwch yn uniongyrchol â’n tîm aelodaeth trwy e-bostio addysg-membership@adultlearning.wales.
Er mwy prosesu trafodion taliadau ein ffioedd aelodaeth, byddwn yn gofyn i chi am fanylion eich cerdyn Debyd neu Gredyd yn adran taliadau ein ffurflenni cofrestru aelodau newydd ac adnewyddu aelodaeth ar-lein. Mae hon yn broses ddiogel sefydledig ac integredig sy’n cael ei hwyluso trwy gyfrwng cyfrif ‘Stripe’ ein sefydliad. Ni fyddwn yn cadw manylion eich cerdyn ar gyfrifiadur.
Mae gan AOC hawl i newid y ffioedd aelodaeth blynyddol. Bydd aelodau yn cael hysbysiad ymlaen llaw cyn dyddiad adnewyddu eu haelodaeth.
Mae gennych hawl gyfreithiol i ganslo’r contract a gaiff eu sefydlu rhyngom ni (a chael ad-daliad o ran y ffioedd a dalwyd) cyn pen 14 diwrnod os byddwch yn ailfeddwl neu’n penderfynu oherwydd unrhyw reswm arall nad ydych yn dymuno parhau i fod yn aelod o AOC.
Ni ellir trosglwyddo unrhyw Aelodaeth o AOC ac nid oes ganddynt unrhyw werth ariannol.
Pan fyddwch wedi cofrestru â chynllun aelodaeth AOC, byddwch yn cael cerdyn aelodaeth digidol wedi’i atodi wrth y neges e-bost i anfonir i gadarnhau eich bod yn aelod. Mae’r cerdyn aelodaeth yn ddilys ar gyfer y defnyddiwr cofrestredig a bydd yn ddilys yn ystod y cyfnod a nodir ar y cerdyn,.
Mae gan AOC hawl i wrthod caniatáu aelodaeth neu ganslo statws aelodaeth am gamddefnyddio’r cynllun aelodaeth ar unrhyw adeg.
Bydd manylion a ddarperir gennych chi pan fyddwch yn cofrestru i fod yn aelod neu’n adnewyddu eich aelodaeth yn cael eu prosesu yn unol â gofynion GDPR gan AOC (sef rheolwr y data a/neu brosesydd y data) at y dibenion penodedig. Bydd AOC yn cadw eich data personol cyhyd ag y bydd hynny’n ofynnol ac mae gennych hawl i ofyn am gael gweld y data hyn, eu cywiro neu eu dileu, a bydd gennych hawl i gyfyngu ar neu wrthwynebu prosesu’r data hynny. Mae gennych hawl i gludadwyedd data hefyd.
I ddarllen yr holl fanylion ynghylch prosesu data a GDPR, trowch at ein Polisi Preifatrwydd.
Mae’r gostyngiad o 10% yn ffioedd cyrsiau yn berthnasol yn achos cofrestru ar-lein i gyfranogi mewn cyrsiau y bydd angen talu ffi i gyfranogi ynddynt. Gweithredir gostyngiad o 10% pan fyddwch yn talu yn ystod y broses gofrestru ar-lein. Bydd yn ofynnol i chi nodi eich rhif aelodaeth i gadarnhau bod gennych hawl i gael y gostyngiad hwn. Gallwch weld eich rhif aelodaeth yn y neges e-bost yn cadarnhau eich aelodaeth ac ar eich cerdyn aelodaeth digidol. Bydd argaeledd lleoedd ar gyrsiau yn dibynnu ar y capasiti a chynigir lleoedd ar sail ‘cyntaf i’r felin’. Caiff yr holl archebion eu monitro fel rhan o’n proses cofrestru.
Os bydd arnoch angen cymorth i neilltuo lle mewn cwrs trwy gyfrwng gwefan AOC, e-bostiwch addysg-membership@adultlearning.wales.
Bydd CCB, Cynhadledd a Seremoni Wobrwyo AOC yn cael eu cynnal mewn amrywiaeth o leoliadau ledled Cymru. Mae croeso i aelodau fynychu. Ni fydd AOC yn talu costau cludiant, llety a chynhaliaeth unrhyw aelodau a fydd yn mynychu’r digwyddiadau hyn.
Mae gan AOC hawl i newid telerau a buddion y cynllun aelodaeth ar unrhyw adeg. Caiff newidiadau i’r cynllun aelodaeth eu cyhoeddi ar wefan AOC.
Fel rhan o’r cynllun aelodaeth, mae AOC yn cydweithio â phartneriaid o bob cwr o Gymru i wella’r hyn rydym yn ei gynnig i’n haelodau. Gall y partneriaid hyn a’u cynigion newid yn ystod cyfnod eich aelodaeth. Fel aelod, rydych yn cytuno i gadw at ofynion telerau ac amodau ein partneriaid, a phan fyddwch yn ymweld â’r partneriaid hyn, efallai y bydd yn ofynnol i chi ddangos y cerdyn aelodaeth digidol a gewch gan AOC i brofi eich bod yn aelod .
Rhoddir hysbysiadau ymlaen llaw am unrhyw gyfleoedd i aelodau gyfranogi mewn ymweliadau gan grwpiau, a chyfyngir ar nifer y lleoedd a fydd ar gael yn unol â’r capasiti. Bydd yr aelodau yn cael eu hysbysu ymlaen llaw am unrhyw gostau ychwanegol, er enghraifft, ffioedd cludiant.
Anfonir cylchlythyrau a gohebiaeth ar gyfer Aelodau AOC atoch chi yn electronig, os byddwch chi wedi nodi sut ydych am i ni gysylltu â ni ac yn unol â hynny.
Trwy ddod yn aelod o AOC, rydych yn cytuno i weithredu bod amser er lles pennaf AOC a pharchu ein staff, ein cydweithwyr a’ch cyd-aelodau.
Bydd AOC yn ceisio ymateb i unrhyw ymholiad ynghylch Aelodaeth ymhen pum diwrnod gwaith. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu gwynion, cysylltwch â’r tîm aelodaeth trwy e-bostio addysg-membership@adultlearning.wales.
Mae Addysg Oedolion Cymru yn elusen gofrestredig a lywodraethir gan gyfreithiau Cymru.