Aelod o'r Cyngor - Victory Ezeofor
Rwyf yn Fodelwr Mathemategol ac Ystadegol yn Economeg Iechyd
wedi ei leoli ym Mhrifysgol Bangor. Rwyf hefyd yn un o’r
cynrychiolwyr ar gyfer ymchwilwyr yn gynnar yn eu gyrfaoedd yn
Ysgol y Gwyddorau Iechyd yno, sydd yn helpu eirioli ar ran
ymchwilwyr yn gynnar yn eu gyrfaoedd gyda rheolwyr yr Ysgol. O
Nigeria yn wreiddiol, mae gen i radd Baglor mewn Technoleg,
gradd Meistr mewn Mathemateg Ddiwydiannol, a doethuriaeth mewn
Mathemateg i Feddygaeth a Bioleg. Rwy’n meddu ar sgiliau
datblygedig mewn cyfrifiaduro, codio a rhaglenni, ac ar hyn o
bryd rwyf yn dilyn hyfforddiant mewn Data Mawr a Gwyddoniaeth
Data a’u heffaith ar y sector iechyd cyhoeddus. Mae gen i
brofiad hefyd o adrodd am risg ac yr wyf yn rheolwr prosiect
ardystiedig.
Mae fy mhrofiad o ddysgu yn bennaf yn y
sector trydyddol - addysgu pobl ifanc ac oedolion fel
hyfforddwr, eiriolwr, darlithydd a chynullwr modiwlau. Hoffwn
ddefnyddio fy mhrofiad hanesyddol ac yn y presennol yn y sector
addysg uwch i wella cyfleoedd i ddysgwyr yn Addysg Oedolion
Cymru | Adult Learning Wales ac i gynorthwyo eu paratoadau ar
gyfer dyfodol sydd yn gyflym newid.
Am Ragor o Wybodaeth
Os hoffech chi wybod mwy am ein Cyngor, siaradwch â ni.
Cyfeiriad
Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
7, Lard y
Cowper, Ffordd Curran
Caerdydd CF10 5NB
Ffôn
03300 580845
Ebost
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu'n aelod! Beth bynnag yr hoffech ei wneud, byddem wrth ein bodd pe baech yn rhan o'r hyn a wnawn.
Cysylltwch â ni