Aelod o'r Cyngor - Lisa O'Connor
Ar ôl hyfforddi fel athrawes Cymraeg uwchradd a gweithio mewn ysgolion yn y de ddwyrain, symudais i rolau yn cefnogi datblygiad strategol y Gymraeg o fewn sefydliadau, gan gynnwys bod yn Ymgynghorydd iaith i Heddlu Dyfed-Powys ac yna fy mhenodi'n Hyrwyddwr Dwyieithog yng Ngholeg Sir Benfro.
Yn y rôl honno, roedd y cyfrifoldebau'n cynnwys datblygu darpariaeth dysgu dwyieithog ar draws y meysydd a lefelau pwnc yn ogystal â gweithredu'r Strategaeth Datblygu a gyhoeddwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2019. Roedd hyn yn sylfaen ddelfrydol ar gyfer camu i'r rôl Rheolwr Academaidd AB a phrentisiaethau yn y Coleg lle rwyf bellach yn gweithio yn y tîm AB a phrentisiaethau lle rydym yn cefnogi darparwyr gyda mewnosod a datblygu amcanion y strategaeth.
Am Ragor o Wybodaeth
Os hoffech chi wybod mwy am ein Cyngor, siaradwch â ni.
Cyfeiriad
Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
7, Lard y
Cowper, Ffordd Curran
Caerdydd CF10 5NB
Ffôn
03300 580845
Ebost
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu'n aelod! Beth bynnag yr hoffech ei wneud, byddem wrth ein bodd pe baech yn rhan o'r hyn a wnawn.
Cysylltwch â ni