Aelod o'r Cyngor - Judith Evans
Cyn imi ymddeol roeddwn yn Bennaeth Coleg y Cymoedd, ac wedi gweithio yn addysg bellach yng Nghymru am 28 blynedd. Fel Pennaeth roeddwn yn gyfrifol am oruchwylio cyfeiriad strategol y Coleg ac am ei bedwar campws. Roedd hyn yn cynnwys cynllunio’r cwricwlwm, cymorth i ddysgwyr, adnoddau dynol/corfforol, rheoli risg, a gwella ansawdd. Rwyf wedi ymwneud ag uno colegau tair gwaith a gyda nifer o raglenni buddsoddiadau cyfalaf i golegau. Gwnes i fy ngorau glas i sicrhau fod gan ddysgwyr fynediad i ystod o adnoddau addysgol ac i gefnogaeth dros amrywiaeth o gymunedau. Pan yn Bennaeth, gweithiais yn agos gyda chyflogwyr lleol a rhanbarthol, gan ymateb i’w gofynion gweithlu at y dyfodol. Roeddwn yn aelod o Dasglu Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymoedd y De, yn Gadeirydd ColegauCymru, aelod o Bwyllgor Cynghori Cymru’r Cyngor Prydeinig, ac o Bartneriaeth Twf Economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Fel rhywun sydd wedi mynd yn ôl at addysg fel oedolyn, rwyf erioed wedi deall gwerth addysg oedolion a’r cyfleoedd y gall ef gynnig.
Am Ragor o Wybodaeth
Os hoffech chi wybod mwy am ein Cyngor, siaradwch â ni.
Cyfeiriad
Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
7, Lard y
Cowper, Ffordd Curran
Caerdydd CF10 5NB
Ffôn
03300 580845
Ebost
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu'n aelod! Beth bynnag yr hoffech ei wneud, byddem wrth ein bodd pe baech yn rhan o'r hyn a wnawn.
Cysylltwch â ni