Aelod o'r Cyngor - Jo Rees
Fi yw Swyddog Polisi Addysg TUC Cymru lle rwy'n gyfrifol am gynllunio, datblygu, trefnu, cyflwyno a chynrychioli rhaglen Addysg TUC ar gyfer cynrychiolwyr a swyddogion yng Nghymru.
Yn flaenorol, gweithiais mewn amryw o rolau gwahanol i TUC Cymru, gan gyfrannu at waith y sefydliad ar yr amgylchedd, cydraddoldeb a dysgu yn y gweithle a chyn ymuno gyda'r TUC, gweithiais mewn rolau ar draws llywodraeth leol, y trydydd sector, manwerthu ac addysg bellach.
Mae gan TUC Cymru bartneriaeth hirhoedlog a llwyddiannus gydag Addysg Oedolion Cymru a'i sefydliadau rhagflaenol. Rwyf wedi gweithio'n agos gyda staff AOC sy'n cyflwyno'r rhaglenni hyfforddiant i gynrychiolwyr a dysgu yn y gweithle, ac rwy’n cydnabod y rôl unigryw a hanfodol y mae AOC yn ei chwarae yn nhirwedd addysg oedolion yng Nghymru, yn enwedig wrth weithio gyda dysgwyr anodd eu cyrraedd a'r rhai nad ydynt efallai wedi mynychu unrhyw addysg ffurfiol ers gadael yr ysgol.
Am Ragor o Wybodaeth
Os hoffech chi wybod mwy am ein Cyngor, siaradwch â ni.
Cyfeiriad
Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
7, Lard y
Cowper, Ffordd Curran
Caerdydd CF10 5NB
Ffôn
03300 580845
Ebost
Edrychwch ar ein cyrsiau
Ymunwch â ni
Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu'n aelod! Beth bynnag yr hoffech ei wneud, byddem wrth ein bodd pe baech yn rhan o'r hyn a wnawn.
Cysylltwch â ni