Aelod o’r Cyngor – Emily Carter | Addysg Oedolion Cymru

Gwraig â gwallt brown tywyll yn gwisgo ffrog dywyll gyda rhosod, yn gwenu ar y camera.

 

Aelod o'r Cyngor - Emily Carter

Rwy’n hanu o Dreharris ger Merthyr Tudful ac wedi astudio cyrsiau mewn cymorth cyntaf, cwnsela ac iechyd & diogelwch gydag Addysg Oedolion Cymru. Rwyf yn awr yn gweithio ar gymhwyster PCET (Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol) yn Y Coleg Merthyr Tudful. Bydd hwnnw’n fy ngalluogi i ddysgu yn y sectorau addysg bellach, oedolion a galwedigaethol (oedran 16+), ac felly ehangu ar fy mhrofiad gwirfoddol mewn swyddi addysgol.

Roedd yn anrhydedd o’r mwyaf i ennill y bleidlais ar gyfer llywodraethwr i ddysgwyr ym mis Hydref 2024. Edrychaf ymlaen at y cyfle i ymuno â Chyngor Addysg Oedolion Cymru a’i Bwyllgor Archwilio, ac felly i gysylltu â phawb sydd yn glwm â’r mudiad. Rhagwelaf amser buddiol o ddatblygiad ac o gydweithio gyda phawb. Gyda fy angerdd tuag at y sector dysgu am oes, fy mhrofiad personol a phroffesiynol ac agwedd cydweithredol, credaf y gallaf wneud cyfraniadau gwerthfawr i hyrwyddo nodau’r mudiad.

 

 

Am Ragor o Wybodaeth

Os hoffech chi wybod mwy am ein Cyngor, siaradwch â ni.

Cyfeiriad

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
7, Lard y Cowper, Ffordd Curran
Caerdydd CF10 5NB

Ffôn

03300 580845

Ebost

Nicola Dagg (Ysgrifennydd y Cwmni)

Ymunwch â ni

Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu'n aelod! Beth bynnag yr hoffech ei wneud, byddem wrth ein bodd pe baech yn rhan o'r hyn a wnawn.

Cysylltwch â ni