Aelod o’r Cyngor – Sarah O’Mahony | Addysg Oedolion Cymru

Menyw gyda bob brown smart byr, yn gwisgo crys gwyn a siaced smart.

 

Aelod o'r Cyngor - Sarah O’Mahony

Gyda bron i 30 mlynedd o brofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc, mae Sarah yn angerddol am werthoedd ac egwyddorion gwaith ieuenctid. Ar ôl cyhoeddi papur ymchwil yn ddiweddar o'r enw "Cnoi Cil: Canfyddiadau pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid o ansicrwydd bwyd ac ymateb gwaith ieuenctid", mae hi'n awyddus i archwilio materion sy'n effeithio ar bobl ifanc, er mwyn cydweithio i gryfhau eu lleisiau. Roedd Sarah yn Gyfarwyddwr Sefydliad Cam-drin Domestig am 19 mlynedd, yna gweithiodd i Wasanaethau Ieuenctid Awdurdodau Lleol cyn dechrau gyrfa newydd fel Darlithydd mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol ym Mhrifysgol Wrecsam.

Mae gan Sarah brofiad o ddiogelu, ar ôl dal swydd Is-gadeirydd y Bwrdd Lleol Diogelu (LCSB) yn flaenorol, gan gynrychioli sefydliadau gwirfoddol a chymunedol. Hefyd, cyflwynodd hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Gam-drin Domestig i weithwyr proffesiynol ac mae'n Llywodraethwr Cymunedol mewn Ysgol Uwchradd yng Ngogledd Cymru. Mae Sarah yn angerddol am ddysgu gydol oes ac yn credu y dylai pawb allu cael mynediad at wybodaeth ac addysg mewn ffordd sy'n addas iddyn nhw.


 

Am Ragor o Wybodaeth

Os hoffech chi wybod mwy am ein Cyngor, siaradwch â ni.

Cyfeiriad

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
7, Lard y Cowper, Ffordd Curran
Caerdydd CF10 5NB

Ffôn

03300 580845

Ebost

Nicola Dagg (Ysgrifennydd y Cwmni)

Ymunwch â ni

Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu'n aelod! Beth bynnag yr hoffech ei wneud, byddem wrth ein bodd pe baech yn rhan o'r hyn a wnawn.

Cysylltwch â ni