Aelod o’r Cyngor – Rhys Goode | Addysg Oedolion Cymru

Dyn â sbectol, gwallt llwyd byr wedi'i steilio, yn gwisgo crys T du a siaced lwyd gyda sip.

 

Aelod o'r Cyngor - Rhys Goode

Cefais fy magu yn nyffrynnoedd Pen-y-bont ar Ogwr, a thrwy gydol fy mywyd gwelais pa mor bwysig yw dysgu oedolion o ran gwella bywydau, sgiliau a chyfleoedd gwaith. Gadewais Gymru i astudio yn y brifysgol cyn dechrau fy ngyrfa ym maes polisi a materion cyhoeddus yn Llundain, lle bûm yn byw ac yn gweithio nes dychwelyd i Gymru yn 2020.

Ers dychwelyd i Gymru, rwyf wedi cwblhau gradd MBA ym Mhrifysgol Caerdydd ac wedi gwasanaethu fel Cynghorydd Bwrdeistref Sirol yn y pentref lle cefais fy magu – gan dreulio dwy flynedd yn Aelod Cabinet dros Adfywio a Lles, yn ogystal ag eistedd ar nifer o fyrddau – mewn ymgais i roi rhywbeth yn ôl i'r cymunedau a'm galluogodd i ffynnu. Ar hyn o bryd, eisteddaf ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf fel aelod annibynnol, ac rwyf hefyd yn Gyfarwyddwr yn 'More Than Flags and Rainbows', sefydliad addysg gynhwysol a sefydlais ar y cyd gyda fy mhartner. Edrychaf ymlaen at ddod â'r holl brofiad hwn at ei gilydd er mwyn gweithio i wella mynediad at ddysgu oedolion a'r wybodaeth amdano ledled Cymru.


 

Am Ragor o Wybodaeth

Os hoffech chi wybod mwy am ein Cyngor, siaradwch â ni.

Cyfeiriad

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
7, Lard y Cowper, Ffordd Curran
Caerdydd CF10 5NB

Ffôn

03300 580845

Ebost

Nicola Dagg (Ysgrifennydd y Cwmni)

Ymunwch â ni

Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu'n aelod! Beth bynnag yr hoffech ei wneud, byddem wrth ein bodd pe baech yn rhan o'r hyn a wnawn.

Cysylltwch â ni