Aelod o’r Cyngor – Nicole Green | Addysg Oedolion Cymru

Menyw â gwallt melyn wedi’I gglymi’n ôl, yn gwisgo scbectol, blaser brown golau, sgarff â phatrwm cheetah, a chrys-T gwyn â streipiau llorweddol glas, yn erbyn cefndir graddiant glaswyrdd.

 

Aelod o'r Cyngor - Nicole Green

Fel Dysgwr-Lywodraethwr, rwy'n cynnig safbwynt dysgwr cyfredol a diweddar, ar ôl cwblhau sawl cwrs dan ofal y sefydliad, gan gynnwys y cwrs Dysgu sut i Gynghori. Rwy'n credu’n gryf mewn datblygiad personol a manteisio’n llawn ar gyfleoedd dysgu newydd. Ar hyn o bryd, rwy'n ymgymryd â chwrs cwnsela, ac rwy’n gobeithio y bydd hynny’n arwain at gymhwyster NVQ. Mae'r daith ddysgu hon yn fy helpu i feithrin y sgiliau a'r hyder sy’n ofynnol i gamu ymlaen i yrfa werth chweil sy'n ymwneud â chynorthwyo eraill.

Mae cael eich dewis yn Ddysgwr-Lywodraethwr yn fraint. Rwy'n cydnabod pwysigrwydd cynrychioli profiadau, anghenion a dyheadau dysgwyr, gan helpu i sicrhau y cânt eu hadlewyrchu mewn penderfyniadau sy'n llunio dyfodol y sefydliad. Rwy’n frwd dros ddysgu gydol oes a helpu eraill, ac rwy’n gallu cyfrannu cymysgedd o brofiad proffesiynol, dirnadaethau yn seiliedig ar brofiadau bywyd, a chydweithio i gynorthwyo â gwaith y sefydliad i gyflawni ei nodau a chreu canlyniadau cadarnhaol i ddysgwyr.


 

Am Ragor o Wybodaeth

Os hoffech chi wybod mwy am ein Cyngor, siaradwch â ni.

Cyfeiriad

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
7, Lard y Cowper, Ffordd Curran
Caerdydd CF10 5NB

Ffôn

03300 580845

Ebost

Nicola Dagg (Ysgrifennydd y Cwmni)

Ymunwch â ni

Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu'n aelod! Beth bynnag yr hoffech ei wneud, byddem wrth ein bodd pe baech yn rhan o'r hyn a wnawn.

Cysylltwch â ni

Person â gwallt byr melyn, yn gwisgo crys gwyn a sgraff sidan lliwgar hefo cefndir graddiant glas.

 

Aelod o'r Cyngor - Siôn Aled Owen

Rwy'n athro a hyfforddwr profiadol iawn gyda gyrfa'n cwmpasu rolau uwch mewn addysg uwch (gan gynnwys Dirprwy Ddeon Ysgol Addysg Caerdydd a Chyfarwyddwr Menter yn Ysgol Addysg Caerdydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd), gan arbenigo mewn addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Yn ystod fy ngyrfa, datblygais bortffolio addysgu eang ac amrywiol, wedi'i ategu gan ymrwymiad cryf i ragoriaeth a chefnogi dysgwyr mewn addysg a datblygiad proffesiynol.

Ers ymddeol o addysg uwch, rwyf wedi ailganolbwyntio fy ymarfer ar addysg grefftau, gan arbenigo mewn gwaith basged. Sefydlais ac rwy'n gyfarwyddwr y Ganolfan Sgiliau Gwledig, lle rydym yn cynnig cymwysterau Gwaith Basged City and Guilds ar Lefelau 2 a 3, ochr yn ochr â rhaglen eang o weithdai a gynlluniwyd i ymgysylltu, ysbrydoli a datblygu diddordebau dysgwyr mewn crefftau treftadaeth ar bob lefel.


 

Am Ragor o Wybodaeth

Os hoffech chi wybod mwy am ein Cyngor, siaradwch â ni.

Cyfeiriad

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
7, Lard y Cowper, Ffordd Curran
Caerdydd CF10 5NB

Ffôn

03300 580845

Ebost

Nicola Dagg (Ysgrifennydd y Cwmni)

Ymunwch â ni

Dewch yn ddysgwr, yn diwtor, yn bartner neu'n aelod! Beth bynnag yr hoffech ei wneud, byddem wrth ein bodd pe baech yn rhan o'r hyn a wnawn.

Cysylltwch â ni